Os ydych yn talu'r taliadau yr ydym yn cytuno arnynt am 6 mis, byddwn yn talu hanner eich ôl-ddyledion. Os byddwch wedyn yn talu am 6 mis arall, byddwn yn talu gweddill eich ôl-ddyledion.
Llenwch y ffurflen Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid hon. Ar ôl iddi gael ei chyflwyno, bydd ein tîm yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith i roi gwybod y canlyniad, ac i drefnu’r cynllun talu yr ydym wedi cytuno arno. Mae’n rhaid i ni siarad â chi er mwyn eich derbyn i'r Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid. Os na allwn siarad â chi, byddwn yn anfon ein manylion cyswllt atoch, i'ch galluogi chi i gysylltu â ni a symud ymlaen gyda'r cais. Mae'n bwysig eich bod chi'n gwneud hyn er mwyn i hyn gael ei roi ar eich cyfrif.
Byddwch yn ymwybodol nad yw cael eich derbyn ar gynllun y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid (CAF) yn atal marcwyr talu hwyr ar eich ffeil gredyd yn awtomatig. Er eich bod yn cael cymorth, gan fod eich cyfrif yn parhau i fod mewn ôl-ddyledion a bod y balans cyffredinol yn dal i fod yn hwyr, mae'n rhaid i ni barhau i roi gwybod i'r asiantaethau credyd am daliadau hwyr. Mae hyn yn golygu, er gwaethaf bod ar y cynllun, y gallai eich adroddiad credyd barhau i adlewyrchu taliadau hwyr nes bod y balans sy'n weddill wedi'i dalu’n llawn, neu eich bod wedi cwblhau'r cynllun cymorth cwsmeriaid.
Mae'r cymorth hwn yma i'ch helpu chi drwy gyfnodau anodd, ond gallai asiantaethau credyd gofnodi eich cyfranogiad fel cytundeb talu arbennig, a all effeithio ar eich sgôr credyd.