Neidio i’r cynnwys

Close

Menu

Gwnewch gais am ein tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth gan ein tariff WaterSure Cymru os:

  • Oes gennych fesurydd dŵr (neu'n cytuno i gael mesurydd dŵr wedi'i osod)
  • A
  • Ydych yn derbyn o leiaf un o'r canlynol:

    Cymhorthdal Incwm
    Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
    Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ag Incwm
    Credyd Pensiwn
    Budd-dal Tai
    Lwfans Gweini (AA)
    Credyd Treth Gwaith
    Credyd Cynhwysol
    Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
    Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

A
  • Fod ag aelod yn eich cartref â chyflwr meddygol sy’n golygu bod angen defnyddio llawer mwy o ddŵr nag arfer:

    Digroeni (clefyd croen sy'n pilio)
    Croen diferol (ecsema, soriasis, briwiau chwyddedig)
    Anymataliaeth
    Stoma'r Abdomen
    Clefyd Crohn
    Methiant Arennol sy'n gofyn am gael dialysis yn y cartref (heblaw pan fo'r awdurdod iechyd yn cyfrannu at gost y dialysis)
    Cyflwr meddygol arall sy'n golygu bod angen defnyddio llawer mwy o ddŵr ychwanegol.

  • NEU
  • Oes gennych 3 neu fwy o blant o dan 19 oed, yn byw yn eich cartref yr ydych yn hawlio Budd-dal Plant ar eu cyfer.

Bydd angen i chi uwchlwytho tystiolaeth i gefnogi eich cais fel prawf eich bod yn derbyn budd-dal(iadau) neu gredyd(au) treth. Rydym yn derbyn hysbysiadau o ddyfarniadau neu gyfriflenni banc o’r 12 mis diwethaf (sy'n dangos eich enw a'ch cyfeiriad llawn) fel prawf o'ch budd-daliadau neu gredydau treth, ac eithrio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Lwfans Ceisio Gwaith (JSA). Mae hyn oherwydd ein bod yn derbyn ESA a JSA seiliedig ar incwm yn unig, ni fydd eich cyfriflen banc yn dangos i ni pa fath o arian rydych chi'n ei dderbyn.