Neidio i’r cynnwys

Close

Menu

Monitro Mewnlif ac Ymdreiddiad

Rydym yn gosod 10,000 o fesuryddion lefelau carthffosiaeth mewn siambrau ar draws Cymru, a hynny’n rhan o’n prosiect Monitro Mewnlif ac Ymdreiddiad (IIM). Bydd y mesuryddion hyn yn ein helpu i ddeall sut mae lefelau’n newid yn ein carthffosydd trwy’r flwyddyn, yn enwedig yn ystod cyfnodau o law trwm neu lefelau dŵr daear uchel.

Trwy gasglu’r data hwn, gallwn weld pryd mae gormodedd o ddŵr yn dod i mewn i’r system, rhywbeth a allai gyfrannu at lifogydd lleol a llygredd amgylcheddol.

Mae deall y materion hyn yn gam cyntaf hanfodol wrth fynd ati i leihau’r risgiau. Bydd y gwersi a ddysgwn yn ein helpu i gynllunio ac i flaenoriaethu gwelliannau yn y dyfodol, gan dargedu'r ardaloedd ble mae’r angen ar ei fwyaf. Bydd hyn yn arwain at rwydwaith sy’n fwy gwydn, yn helpu i amddiffyn cymunedau a lleihau'r tebygolrwydd o lifogydd a digwyddiadau llygredd.

Ni ellir dod o hyd i'r cyfeiriad

Gwybodaeth am dir

Ni ellir dod o hyd i'r cyfeiriad

Datganiad