Diolch
Diolch am ddatgan bod eich eiddo yn dal yn wag ac nad yw'r cyflenwad yn cael ei ddefnyddio.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall.
Byddwn yn adolygu eich gwybodaeth ac yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad yn y 10 diwrnod gwaith nesaf. Os caiff ei dderbyn, bydd y NOAC yn cael ei ymestyn am 12 mis arall, a byddwn yn anfon bil wedi'i ddiweddaru atoch i adlewyrchu'r defnydd tebygol yn yr eiddo.
Pryd i gysylltu â ni
Rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith os ydych chi'n gwerthu'r eiddo, neu ei fod yn cael ei feddiannu, gan roi enwau llawn a nifer y preswylwyr i ni. Ar gyfer cofrestru tenantiaid, gallwch roi gwybod i ni yn gyflym ac yn hawdd trwy ymweld â www.landlordtap.com. Os ydych chi'n gwerthu'r eiddo, rhowch wybod i ni yma.
Os byddwn yn penderfynu bod yr eiddo yn cael ei feddiannu tra'i fod yn cael ei filio o dan NOAC, byddwn yn gwrthdroi'r tâl a byddwn yn bilio taliadau llawn anfesuredig i chi o'r dyddiad y credwn fod yr eiddo wedi'i feddiannu, felly rhowch wybod i ni.