Neidio i’r cynnwys

Close

Menu

Cais am fesurydd dŵr

Os ydych chi newydd brynu neu symud i eiddo, cewch wneud cais ar ôl i chi gael eich cyfeirnod cwsmer a'ch bil cyntaf.

Os ydych chi’n symud i’n rhanbarth ni am y tro cyntaf neu’n symud i eiddo arall o fewn ein rhanbarth, gallwch roi gwybod i ni ar-lein.

Allech chi fod yn arbed arian gyda mesurydd? Edrychwch ar y gyfrifiannell ar ein tudalen sy’n esbonio eich bil yma.

Mae mwy o wybodaeth am gael mesurydd dŵr i'w gweld yma.

Efallai bod gennych fesurydd dŵr eisoes

Fel rhan o'n gwaith parhaus i leihau gollyngiadau a gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth, mae mesuryddion dŵr eisoes wedi'u gosod y tu allan i rai eiddo, hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer bilio ar hyn o bryd. Os yw ein cofnodion yn dangos bod mesurydd eisoes wedi'i osod ar eich cyflenwad chi, byddwn yn diweddaru eich bil i godi tâl arnoch ar y mesurydd o ddyddiad eich cais.

Sylwer:

  • Ni fyddwn yn ysgrifennu atoch ar wahân i gadarnhau'r newid
  • Byddwch yn derbyn datganiad terfynol ar gyfer eich cyfrif anfesuredig (heb ei fesur) cyn i’r bilio ar y mesurydd ddechrau

Dewiswch un o'r botymau uchod i barhau â'ch cais mesurydd. Llenwch un math o gwsmer yn unig.

Eich cyfrif Dŵr Cymru

Mae angen yr wybodaeth ganlynol arnom i adalw eich cyfrif cwsmer Dŵr Cymru.



Cyfeirnod eich cyfrif Dŵr Cymru - Gallwch ddod o hyd iddo yn y gornel uchaf ar ochr dde eich bil, ar eich dangosfwrdd Fy Nghyfrif, neu’r cyfeirnod ar eich taliad os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol.

Ynglŷn â'ch busnes

Mae angen y wybodaeth ganlynol arnom am eich busnes.